What are you looking for?

Atgofion y Grand:
Gorffennol, Presennol,
Dyfodol

Mae Atgofion y Grand: Y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol yn gasgliad o atgofion penodol o adeilad y Grand; nid fel theatr yn unig, ond fel man sy’n annog pawb i ymweld a phrofi rhywbeth newydd sbon, cynnig lle diogel i ymgolli a mwynhau adloniant. Mae’r prosiect hwn, a noddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn rhoi cipolwg inni ar atgofion pobl o’r hyn y mae adeilad y Grand yn ei olygu iddyn nhw, boed nhw wedi byw yn Abertawe, wedi ymfudo i’r ardal neu wedi gweithio yn yr adeilad. Mae’r prosiect yn taflu goleuni ar eu straeon gan ddefnyddio ffotograffau a chyfweliadau, edrych ar sut mae’r adeilad wedi esblygu dros y blynyddoedd i’r hyn mae’n ei gynrychioli erbyn hyn, beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig, a sut mae wedi cipio calonnau’r holl bobl. Nid myfyrio ar y gorffennol yn unig mae’r prosiect hwn, ond hefyd archwilio pwysigrwydd lle mor eiconig sy’n sefyll yn gadarn mewn dinas sy’n newid yn barhaus.

Cookie
Let us know you to agree to cookies.
We use cookies to provide you the best online experience. Please let us know if you agree with our Privacy policy.
Back Top