What are you looking for?

Dyma Atgofion y Grand: Y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol. Prosiect yw hwn a grëwyd gan Race Council Cymru ar gyfer HWB Amlddiwylliannol y GRAND ac a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae’r prosiect hwn yn cofnodi atgofion pobl am yr hyn mae adeilad y Grand yn ei olygu iddyn nhw, ac yn taflu goleuni ar eu straeon gan ddefnyddio ffotograffau a chyfweliadau, ystyried sut mae’r adeilad wedi esblygu dros y blynyddoedd i’r hyn mae’n ei gynrychioli erbyn hyn; sut mae wedi cipio calonnau’r holl bobl, a beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig. Mae’r prosiect hwn hefyd yn trafod pwysigrwydd lle mor eiconig a sut mae’n datblygu mewn dinas sy’n newid yn barhaus, ac yn dal i fod yn adeilad sy’n annog pawb i ymweld a chael profiad newydd.

Sefydlwyd Theatr y Grand Abertawe yn 1897, ac mae’r adeilad yn gyfoeth o hanes diwylliannol, mae’n ganolbwynt annatod i ddinas Abertawe. Mae wedi sefyll yn gadarn ac yn falch am fwy na 120 o flynyddoedd ac wedi agor ei ddrysau i gynulleidfaoedd gael gwylio perfformiadau sydd wedi amrywio o gomedi Ryan and Ronnie, i’r seren leol Catherine Zeta Jones.

Mae Race Council Cymru wrthi ar hyn o bryd yn sefydlu ei hwb amlddiwylliannol cyntaf yng Nghymru, a fydd wedi’i leoli yn Adain y Celfyddydau yn Theatr y Grand Abertawe. Mae Hwb y Grand yn cynnwys 23 o wahanol grwpiau llawr gwlad o leiafrifoedd ethnig a fydd yn gweithio yn adeilad y Grand. Rhoddodd y cymunedau enw newydd swyddogol i’r ganolfan ddiwylliannol newydd yn Abertawe: Hwb Amlddiwylliannol y Grand. Nod yr hwb yw datblygu Rhaglen Gyfoes newydd ac arloesol o berfformio proffesiynol, dathlu diwylliannol ac ymarfer cymunedol.

Mae Adain y Celfyddydau wedi cael ei ailwampio i gefnogi’r gweithgareddau newydd lu a fydd yn digwydd yma ac i gefnogi cymunedau i weithio gyda’i gilydd i rannu gwybodaeth ac adnoddau, digwyddiadau creadigol a diwylliannol, oll dan yr unto.

Mae’r prosiect hwn yn gyfle i fwrw golwg ar yr hyn mae’r adeilad yn ei olygu i bobl yn unigol ac iddyn nhw rannu eu profiadau o ymweld, gweithio, a pherfformio yn y Grand o wahanol safbwyntiau. Cawn hefyd ddirnadaeth o esblygiad yr adeilad ar hyd y blynyddoedd a’r hyn sydd ganddo i’w gynnig nawr ac mewn blynyddoedd i ddod.

Cookie
Let us know you to agree to cookies.
We use cookies to provide you the best online experience. Please let us know if you agree with our Privacy policy.
Back Top