Dwi’n gweithio i sefydliad o’r enw Cymdeithas Pobl Tsieineaidd yng Nghymru ac mae fy atgofion cryfaf o’r Grand yn ymwneud â’r gwaith ry’n ei gyflawni. Symudodd y sefydliad yn ddiweddar i Hwb Amlddiwylliannol y Grand a sefydlu swyddfa yn Adain y Celfyddydau.
Dwi’n cofio’r datganiad wnaethon ni i’r Gymuned Tsieineaidd ein bod yn gweithio gyda nhw yn y ganolfan a phawb mor gyffrous am hynny, yn arbennig yr hynafiaid. Roedden nhw’n gweld y ganolfan yn hygyrch am ei fod yng nghanol y ddinas, drws nesaf i’r orsaf bws. Mae esgynfa hefyd yn Adain y Celfyddydau, sy’n helpu’r hynafiaid i gyrchu ein gwasanaethau.
Dwi hefyd yn cofio sioe a welais gan grŵp theatr amatur yn y brif awditoriwm. Ro’n i wedi synnu gweld sioe o safon mor dda gan amaturiaid. Roedd yn brofiad cadarnhaol a hyfryd iawn i mi. Wedi hynny, prynais docyn arall i wylio sioe wahanol ond yn anffodus, caeodd y theatr oherwydd y pandemig.
Canolbwynt y ddinas yw’r Grand ac mae tu allan y theatr yn artistig iawn. Mae’n adeilad ysblennydd iawn wedi ei gadw’n dda ac yn gyforiog o hanes, Byddai’n gyfle gwych ei ddefnyddio nid yn unig am resymau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth ond er lles y cyhoedd.
Dwi wedi gwylio cynyrchiadau yn y theatr fy hun ond dwi’n credu byddai hefyd yn fan hyfryd i bobl ymgynnull a chyfnewid gwahanol ddiwylliannau. Byddai’n bwynt cyswllt braf ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus lle gall bobl gael beth sydd eu hangen arnyn nhw.
Yn fy marn i, does dim yn y byd nad yw’n llwyr ar wahân neu’n ddatgysylltiedig, ac mae gweld y Grand yn datblygu’n ganolfan i bawb yn hynod gyffrous oherwydd ar ddiwedd y dydd, mae pob dim yn ymwneud â phobl a’r gymuned.