Fy nghof cyntaf o’r Grand oedd dod yma i fynychu digwyddiadau a drefnwyd gan Race Council Cymru.
Daeth yr ysbrydoliaeth a’r ysgogiad i ffurfio ein grŵp, cymdeithas y Nigerians in Wales Association, o weld gwaith Race Council Cymru a chymryd rhan yn eu digwyddiadau. Roedd hi’n hyfryd gweld pobl o wahanol gefndiroedd ethnig yn dod at ei gilydd i ddangos eu treftadaeth ddiwylliannol. Sylweddolais fod fy nghymuned ar goll yn hyn i gyd. Dyna beth a’n hysbrydolodd i gychwyn y Nigerians in Wales Association. Cael bod yn rhan o bopeth a oedd yn digwydd yma.
Dwi hefyd yn cofio yr arferai’r caffi lawr grisiau gynnal nifer o ddigwyddiadau yr arferwn eu mynychu. Roedd bwrdd crwn y menywod yn arfer cael ei gynnal gan Introbiz Abertawe a Gorllewin Cymru. Roedd yn ddigwyddiad hyfryd lle roeddech yn cyfarfod a menywod o gefndiroedd gweithio amrywiol ac amryw i wahanol ethnigrwydd.
Ei ddiben oedd darparu llwyfan rhwydweithio ar gyfer menywod oedd yn canolbwyntio ar eu gyrfa ac ar fusnes, yn ogystal â menywod o gefndiroedd gwaith amrywiol. Roedd yn amrywio o fenywod yn gweithio mewn meysydd academaidd i bobl broffesiynol yn gweithio mewn banciau. Roedd yn gyfle gwych i fenywod gyfarfod a siarad am eu gwaith a sut gallent rwydweithio â’i gilydd.
Mae meddwl am yr atgofion rwyf wedi’u creu ond wrth ddod i’r Grand fel troedio llwybr y cof. Pan edrychaf tua’r dyfodol a meddwl am fy atgofion, fy angerdd neu weledigaeth ar gyfer y lle hwn fyddai gweld mwy o amrywiaeth hil. Gyda’r Hwb Amlddiwylliannol sydd newydd ei sefydlu, mae’n dda gweld yr holl gymunedau amrywiol yn rhyngweithio mewn un le. Rwy’n gobeithio y bydd yr hwb yma’n dod yn le gall cymunedau gyfnewid eu diwylliannau, rhannu eu treftadaeth a chelfyddyd. Hefyd, gan edrych at y dyfodol, hoffwn weld plethu gwaith yr hwb gyda’r diwylliant Cymreig lleol er mwyn creu cymuned ddiwylliannol gwir gynhwysol.