Fe wnes i ymweld â’r Grand am y tro cyntaf erioed i wylio bale, pan oeddwn tua 9 mlwydd oed. Mewn gwirionedd, fy mam aeth â mi a’m chwiorydd a rhai ffrindiau. Roedd mam yn caru cerddoriaeth a dawnsio ond dim ond o ran chwilfrydedd roeddem ni’n mynd.
Dyna sut cefais fy nghyflwyno i Theatr y Grand. Mae’n adeilad mor fendigedig.
Tua 2 flynedd yn ôl, rwy’n credu, ro’n i’n gwylio perfformiad gyda hanesydd a chyflwynydd teledu oedd yn mynd ar daith o gwmpas yr holl theatrau. Roedd yn rhaid i mi fynd i’w weld oherwydd dwi wrth fy modd gyda hanes.
Tra oedd e’n rhoi sgwrs i ni ar hanes llawn Theatr y Grand, meddyliais pa mor hynod yw’r lle, yr holl isadeiledd, y seddau, y panelu a’r gwneuthuriad y tu mewn.
Mae’n le hardd a chanddo’r fath hanes cyfoethog. Mae’n un o’r lleoedd sydd wedi goroesi’r rhyfel ac nid yw wedi newid. Mae llawer o bethau wedi digwydd dros y 100 mlynedd diwethaf, ond mae’r Grand yn un peth sydd wedi goroesi.
Mae’r Grand yn hwb canolog ac yn le eiconig i mi. Mae pawb yn ei adnabod. Os ydych am gyfarfod â rhywun byddwch bob amser yn dweud ‘wela i chi o flaen Theatr y Grand’.
Dyma lle daw pobl ynghyd i gael diod, pryd bwyd a mwynhau sioeau llawn hwyl gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd. Mae Theatr y Grand yn nodedig am adloniant; yn wahanol i’r sinema, mae’r Grand yn fyw, gyda’r digwyddiadau’n fyw.
Mae’n fan lle daw pobl ynghyd o bob cwr o’r byd, waeth beth fo at eich dant a’ch diddordebau.