Deuthum i’r Grand i weld Pantomeim pan oeddwn yn blentyn. Flynyddoedd yn ôl, lle bynnag fyddai fy nhad yn gweithio, byddai’r cyflogwyr yn darparu bws mawr ar gyfer y plant ac nid oedd angen talu’r un geiniog. Roeddem yn cael bag mawr o bethau da wrth i ni esgyn y bws. Dyna’r cof cyntaf sy gen i o’r Grand. Roedd y pantomeimiau yn anhygoel yn ystod y dyddiau hynny, roedd y dillad mor hardd.

Y tro cyntaf i mi ddechrau gweithio yn y Grand oedd ym 1989. Roeddwn yma am rai blynyddoedd ac yna es i wneud swydd arall. Dychwelais yn 2002, mae bron yn 19 o flynyddoedd bellach.

Mae’r Grand yn le anhygoel, mae pawb dwi’n nabod sydd wedi gweithio yno bob amser wedi caru’r lle hwn ac maen nhw wedi gweithio yma erstalwm. Hefyd, dwi’n gwybod bod teulu rhai o’r tywyswragedd yn dal yma. Maen nhw wedi gweithio yma ers blynyddoedd maith hyd at eu hymddeoliad oherwydd bod y Grand yn le mor braf. Mae’n adeilad hardd hynafol, hyfryd, mae’r neuadd a phopeth yn hyfryd.

Ceir llun o’r holl lanhawyr o’r gorffennol yn hongian yn y Grand ac mae fy mam yn y llun hwnnw. Roedd hi yma o’m mlaen i. Daw llawer o’r glanhawyr yn y llun hwnnw o Saint Tomos, roedden nhw i gyd yn byw yn yr un ardal. Roedd hynny’n ddefnyddiol oherwydd pan oedden nhw’n arfer gweithio ar ddydd Sul arferent rannu tacsis i ddod i’r gwaith.

I mi gael bod yn onest, edrychais fawr ddim ar y llun nes y bu mam farw. Bob tro rwy’n cerdded heibio’r llun dwi bellach yn oedi ac yn edrych arno.