‘Does dim drwg erioed yn mynd i ddigwydd i ni yn y theatr, hyd yn oed pan ry’ch chi’n hŷn’. Dyna rywbeth sydd wedi’i drwytho ynof fi a’m mrawd ers yn blant.

Credaf fod y theatr yn dileu eich holl ofidiau am ychydig oriau. Ry’ch chi’n eistedd yno ac ry’ch chi wedi llwyr ymgolli ym mha beth bynnag ry’ch chi’n ei wylio.

Rhaid i mi ddweud fod y theatr yn dod â’r teulu ar daith ledrithiol, bob tro rydym wedi ymweld. Dwi’n meddwl i mi fynd mewn grŵp bob tro – pawb gyda’i gilydd. Credaf po fwyaf yw’ch grŵp, mwyaf anhygoel yw’r profiad.

Ystyr Theatr y Grand i mi yw’r Dolig, dathlu a phenblwyddi. Dwi wedi mynychu’r Grand ar bron pob pen-blwydd, ers cyn cof. Fe wyddoch y cewch chi sioe anhygoel bob amser. Ry’ch chi am gael diod yn y bar, ry’ch chi wedi gwisgo i fyny – mae’n noson wych ac ry’ch chi’n ymgolli. Alla i ddim ei ddisgrifio hyn yn oed, ond dim ond o sefyll y tu allan, fe wyddoch eich bod yn mynd i’r lle bach lledrithiol yma.

Credaf fod y theatr yn creu Nadolig hynod hudolus. Y paratoi a’r cyffro hwnnw i weld y Pantomeim. Roeddwn i tua thair oed yn cychwyn mynd i’r theatr yng nghwmni fy mam, ac mae gen i atgofion melys ohono.

Yn drist, oherwydd COVID, ni chefais gyfle i fynd â’m merch blwydd oed i’r theatr ond hoffwn iddi gael yr un profiadau cyffrous ag y cefais i a’m mrawd oherwydd roedd y profiad mor anhygoel i ni.

Hefyd, dwi wedi mynd i weld perfformiadau yn y theatr na fuaswn yn credu y buaswn yn eu gweld, fel y bale. Byddai’n wych pe bai fy merch yn dod i weld yr holl berfformiadau gwahanol gyda mi. Dwi’n gobeithio y bydd yn ei hannog i weld sioeau na fyddai o bosibl wedi mynd i’w gweld, oni bai ei bod wedi cychwyn mynd i’r theatr yn fy nghwmni.