Fy atgofion cyntaf fel plentyn fyddai’r teulu’n fy hebrwng i Theatr y Grand gyda fy nheulu i wylio’r Cynhyrchiad Cerddorol Blynyddol a berfformiwyd gan Gymdeithas Operatig Amatur Abertawe. Roedd taid a nain yn ymwneud â’r Gymdeithas ac wedi i’r perfformiad orffen, arferent fynd a fi i gefn y llwyfan i gyfarfod â’r actorion. Dwi’n cofio cael fy rhyfeddu gan y perfformwyr a’r dawnswyr oedd ac amser i sgwrsio bob amser cyn iddynt ruthro i’w partïon wedi’r sioeau. Dwi’n cofio hefyd sefyll ar y llwyfan am y tro cyntaf a meddwl, ‘’Dwi am wneud hyn un diwrnod’.
Gweld fy nain ar y llwyfan yw un o’m hatgofion mwyaf arwyddocaol. Arferai fy nain hyfforddi Llais o’i hystafell fyw mewn tŷ ar Ffordd Sgeti, Abertawe. Cofiaf ymweld fel plentyn a chael fy siarsio, ‘ust rŵan achos mae hi’n dysgu’. Y tu ôl i ddrws caeedig byddwn yn gwrando ar actorion ac actoresau ifanc yn darllen o ddramâu a sioeau cerdd. Roedd hi’n amlwg yn wraig arbennig iawn. Roedd hi’n wych ei gweld yn chwarae rhan y Frenhines yn ‘My Fair Lady’ ar lwyfan Theatr y Grand a gallaf ei gweld hi rŵan. Gwireddwyd fy mreuddwyd a dwi wedi perfformio sawl gwaith ar y llwyfan yma. Roeddwn wrth fy modd yn chwarae rhan Eliza Doolittle yn ‘My Fair Lady’ ym 1996 gyda’r Abbey Players ac yn 2001 gyda’r Swansea Amateurs. Gwn y byddai nain wedi bod yn falch iawn.
Mae gennyf ŵyr 5 mlwydd oed, a dwy flynedd yn ôl euthum ag ef i weld Chitty Chitty Bang Bang. Eisteddais yn y gynulleidfa gydag ef ac roedd yn brofiad emosiynol oherwydd teimlwn fod y cylch yn gyfan. Roedd e wrth ei fodd ac roedd hi’n braf ei weld yn cael ei gludo i rywle arall. Wedyn, euthum ag ef i gefn y llwyfan, fel ddaru nain a taid hefo mi a chyfarfu â’r actorion. Fe safodd ar y llwyfan, eisteddodd wrth yr allweddellau ym mhwll y gerddorfa a hyd yn oed yng Nghar Chitty!
Atgofion melys o theatr hyfryd.