Digrifwr mewn pantomeim, cyfarwyddwr ac awdur ydw i, a chychwynnodd fy mherthynas gyda Theatr y Grand, Abertawe pan gefais fy ngwahodd gan Qdos Entertainment i chwarae rhan Buttons yn eu cynhyrchiad o ‘Cinderella’ sef y 100fed pantomeim yn y theatr.
Dwi’n byw yn Redcar ger Middlesbrough a’r pryd hynny doeddwn i ddim yn gyrru ac unrhyw bryd roedd rhaid i mi fynd i Abertawe roedd hi’n daith drên o ddeuddeg awr, hyd yn oed i ymweld ar gyfer y lansiad i’r Wasg neu i’r sesiwn tynnu lluniau. Ond, pan ddeuthum i Abertawe ar gyfer yr ymarferion ac agoriad y sioe, gallech ddweud fod pawb yn y Grand wrth eu bodd gyda’r pantomeim. Roedd y pantomeim, ac mae’n parhau i fod, yn rhan fawr o theatrau’r DU, ac yn arbennig Theatr y Grand, Abertawe.
Dwi’n cofio’r holl gastiau tu cefn i’r llwyfan arferem eu chwarae ar ein gilydd. Unwaith, fe wnaeth cyfaill o’r cast roi tomen anferth o bapur newydd dros fy ystafell newid ac arferwn ddial drwy ysgrifennu ar ddrychau’r ystafell wisgo ‘I love Cardiff’. Mae ond yn dangos yr hwyl cefn llwyfan rhwng pawb.
Hefyd, tra oeddwn yn gwneud y pantomeim, dyna oedd y tro cyntaf i’m cariad, sydd bellach yn wraig i mi, fy ngweld yn gwneud unrhyw beth proffesiynol oherwydd roeddwn ond wedi ei chyfarfod ddau fis yn gynt cyn i mi fynd i Abertawe ar gyfer ymarferion. Fe brynais y fodrwy ddyweddïo tra oeddwn yna, felly mae’r Grand yn le y daeth llawer o bethau at ei gilydd ac mae cysylltiad emosiynol iawn i mi â’r lle. Mae Abertawe a’r Grand fel cartref i mi.
Mae calon go iawn i Theatr y Grand sy’n caniatáu i lawer o bobl Abertawe ddianc iddi a mwynhau’r nos, p’un ai cerddoriaeth a ddaw ag atgofion ac emosiynau yn ôl, ynteu ddrama sy’n esgor ar deimladau ac emosiynau, neu bantomeim ddaw â llawenydd a chwerthin, beth bynnag ddaw o’ch calon, felly’r Grand yw calon Abertawe go iawn.