Am wn i mai’r atgofion melysaf sydd gen i am y Grand yw atgofion am y pantomeimiau roeddwn i’n mynd i’w gweld bob blwyddyn yn fy mhlentyndod.

Cyn i’r sioe ddechrau, roedd yna lenni coch ac mi fyddwn i’n meddwl ‘O rargol, mae’r hyn dwi am ei weld am fod yn fyd mor lledrithiol’. Yna, codai’r llenni a gwelwn yr holl liwiau a’r gwisgoedd disglair a’r golygfeydd.

Es i weld un neu ddau o’r pantomeimiau y bûm yn eu gwylio gyda phlant eraill o ffatri leol. Roedd fy nhad yn gweithio yn y ffatri, felly câi’r plant drip i’r pantomeim. Mae’n rhaid mai’r cyflogwyr, fel rhodd i’w staff, oedd yn trefnu ymweliad i’r plant, a gânt eu codi a’u cyrchu i’r pantomeim. Pan roedden ni’n cyrraedd, roedd yna lawer iawn o bobl yno, ac roedden ni’n cael ein rhoi i eistedd ym mha bynnag res ac rwy’n cofio cael hufen iâ yn ystod yr egwyl.

Rwy’n cofio cynhesrwydd y theatr ac roedd rhai o’r pantomeimiau cynharaf a welais yn arbennig iawn. Arferwn fynd i weld y pantomeimiau hynny, yna dychwelyd adref a’u hail-greu.

Un haf, es i ffair leol a phrynais lyfr o straeon pantomeim. Ar gefn y llyfr, yn hytrach na chlawr cefn syml, roedd model o ffrâm llwyfan ac roedd y llyfr hefyd yn cynnwys tair golygfa o bantomeim Sinderela. Rhoddais y model at ei gilydd gyda’r golygfeydd, a dechreuais chwarae gyda chymeriadau ffyn bach syml roeddwn wedi’u darlunio i gynrychioli cymeriadau’r pantomeim.

Arferwn hefyd ysgrifennu’r pantomeimiau ar sgriptiau, ac erbyn imi fod yn 14 mlwydd oed, roedd gen i fwy na 300 o gymeriadau yn cynnwys Merched Dawnsio, ond dim ond ar ffyn. Fodd bynnag, yn fy meddwl i, roedden nhw’n dod yn fyw, a doedd fy rhieni ddim yn meddwl y buaswn i fyth yn tyfu allan o’r pantomeim bach.

Pe bai rhywun wedi dweud wrth y bachgen bach hwnnw a arferai fynd i’r pantomeim, rwyt ti am fynd yn dy flaen i gyfarwyddo sioe ar y llwyfan, ni fuasai’r bachgen bach wedi credu’r peth o gwbl.