Fel rhywun sy’n gweithio yn Theatr y Grand, Abertawe, mae fy atgofion cryfaf yn ymwneud â’r gweithdai drama a drefnwyd ar gyfer pobl ifanc.

Bob blwyddyn, yn ystod gwyliau’r haf ry’n ni’n trefnu gweithdai y West End mewn partneriaeth â chwmni o Lundain.

Mae’n wythnos brysur am fod y plant yn gweithio gyda pherfformiwr gwahanol o Sioe Gerdd y West End yn y bore a’r prynhawn bob dydd, ac mae nos Wener yn binacl o bob dim maen nhw wedi ei wneud yn ystod yr wythnos. Maen nhw’n llwyfannu perfformiad enfawr ac mae’n wych gweld pobl swil iawn yn sydyn yn blodeuo a’u clywed nhw’n canu.

Mae’r plant wrth eu bodd gyda’r gweithdai yma a dwi wrth fy modd yn treulio amser yn eu cwmni. Nid yn unig mae’r gweithgareddau yma am greu perfformiadau ond am eu gweld yn datblygu mewn sawl ffordd. Mae’r plant yn cymdeithasu, yn helpu ei gilydd, yn cydweithio, y darnau ychwanegol hynny sy’n fy nghyffroi fwyaf.

Dwi wedi gweld cymaint o berfformiadau anhygoel yn y theatr. Dwi’n cofio perfformiad grymus yn arbennig gan fenyw yn y stiwdio fechan yn Adain y Celfyddydau. Perfformiodd mewn sioe solo emosiynol iawn am awr. Ar y diwedd, allwn i ddim hyd yn oed symud. Cafodd y perfformiad gymaint o effaith arna i.

Dwi’n credu bod gan lawer o bobl yn Abertawe gysylltiad personol â’r theatr. Does dim llawer o theatrau’r wlad wedi cael hanes mor hir. Mae yna genedlaethau o bobl sydd ag atgofion a chysylltiadau â’r theatr hon. Cafodd gymaint o ardaloedd yn Abertawe eu bomio yn ystod y rhyfel, ond mae’r theatr ar ei thraed o hyd, yn arwydd o gryfder, creadigrwydd ac amrywiaeth y lle.