Fy mhrofiad cyntaf o’r Grand oedd mynd i weld A Christmas Carol gyda fy ffrind ym 1970. Roedd y sioe mor lledrithiol. Roedd ysbrydion yn gallu ymddangos, roedd y goleuo a’r sain, yr holl brofiad yn anhygoel. Mwy na thebyg imi syrthio mewn cariad â’r Grand y prynhawn hwnnw yn meddwl ‘mae hyn i gyd yn digwydd yn fy nhref enedigol.’

Yna byddem yn dal bws adref a dychwelyd i fywyd normal.

Arferwn feddwl tybed a gawn fyth gyfle i sefyll a pherfformio ar y llwyfan. Roedd bob amser yn rhywbeth i anelu ato. Gobeithio y bydd pobl ifanc sy’n dod i weld fy sioeau’n credu, os dwi’n gallu ei wneud, yna un diwrnod, hwyrach y byddan nhw’n gallu gwneud hyn hefyd.

Yr hyn dwi’n ei fwynhau fwyaf yw pan y’ch chi’n dod drwy ddrws cefn y llwyfan a gallwch glywed pobl yn gwau trwy ei gilydd. Fydda i byth yn blino ar hynny. Gallwch glywed y chwerthin, er ychydig yn bell i ffwrdd ac os y’ch chi’n aros am yr eiliad honno pan fyddwch chi’n cerdded o’r adain ar y llwyfan yn sydyn mae’r sŵn yn cynyddu 100 gwaith yn fwy. Dwi wrth fy modd gyda’r teimlad yna.

Mae’r Grand yn le arbennig iawn. Mae’n arbennig iawn i mi a thrigolion Abertawe. Mae’n cychwyn yn ifanc hefyd. Ymweliad â’r pantomeim yw lle mae llawer o blant yn cael blas ar theatr byw am y tro cyntaf.

Dwi’n credu bod cael y ganolfan newydd yn Theatr y Grand yn syniad gwych. Mae angen pobl ar theatr, rhaid i chi gael brwdfrydedd a syniadau. Mae angen drysau agored, croesawu pobl i mewn a’u hannog i fod yn greadigol ac i fentro.

Dwi’n ffodus mai hynny ddigwyddodd i mi. Roedd rhai pobl yn meddwl mai syniad dwl oedd ysgrifennu sioeau cerdd a’u llwyfannu ar y Grand….a mwy na thebyg roedden nhw’n iawn. Ond mi fentrodd y theatr yn fy achos i a chefais yrfa ganddi, a bellach dwi wedi gweld 5 o’m sioeau cerdd yn cael eu llwyfannu yno.

Dwi ond yn gobeithio y bydd yr ysbryd o fentro ac anogaeth yno ar gyfer cenedlaethau i ddod.