Dechreuodd fy nghysylltiad â’r Grand pan ofynnodd y rheolwr blaen tŷ os oeddwn am weithio ar bantomeim ac awgrymodd mod i’n gweithio ar y drws blaen. 30 mlynedd yn ôl oedd hynny a dwi wedi aros yn y Grand byth ers hynny.
Mae mwyafrif fy atgofion yn gysylltiedig â’r bobl dwi wedi eu cyfarfod dros y blynyddoedd. Does gen i ddim cefndir theatrig a dwi’n meddwl bod angen cymysgwch o ddau wahanol fath o berson i redeg busnes fel hyn – pobl sy’n wirioneddol garu’r theatr a phobl sy’n ymwneud â theatr fel swydd yn unig. Mae’r ail fath yn fwy perthnasol i fi dwi’n meddwl.
I ddechrau, swydd yn unig oedd gweithio yn y Grand i mi, ond dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau drwy fod yma a dwi wedi cyfarfod pobl y byddaf yn eu hadnabod am weddill fy oes.
Unigolion sydd yn llygaid y cyhoedd, yn cael eu heilunaddoli yw llawer o’r bobl hynny dwi wedi eu cyfarfod dros y blynyddoedd. Dyma’r sêr a phopeth ond pan fyddwch chi’n gweithio gyda nhw, maen nhw fel pobl normal. Unwaith, daeth dewin enwog iawn i berfformio yn y Grand, ac arferai ddod i mewn yma a gwneud croeseiriau’r Telegraph gyda mi.
Yn ystod y blynyddoedd o fod yma, mae’r Grand fel lleoliad yr un fath achos deuthum yma yn fuan wedi i gefn y llwyfan gael gweddnewidiad llwyr. Er nad oes dim wedi newid lawer, mae’r bobl yn symud yn barhaus a dwi’n mwynhau dod i’r gwaith i weld y bobl. Yn arbennig am fod y lle yma’n apelio at bawb, ac mae llwyfan i bob dim.