Eleni rwy’n 67 oed, a chefais fy mhrofiad gwaith cyntaf yn 14 oed. Roeddwn dal yn ysgol Esgob Gore ac ymunais â’r grŵp drama lleol yn Theatr Ieuenctid Abertawe yn adeilad y YMCA ar Kingsway. Ymunais â nhw a chanfûm fod gen i angerdd am y theatr.

Roeddwn yn segur rhwng cynyrchiadau, felly gofynnais i reolwr y Grand os gallwn helpu y tu cefn i’r llwyfan. Ymwelodd â’m rhieni i wirio y byddai popeth yn iawn. Fe wnaethon nhw gytuno. Dyna sut y cychwynnais yn Theatr y Grand, Abertawe.

Roeddwn yn 16 oed bryd hynny, a byddwn yn mynd yno ar ôl ysgol ac ar nos Sadwrn wedi’r sioe olaf er mwyn tynnu’r set. Fy swydd gyntaf oedd sythu hoelion. Bob nos Sadwrn byddwn yn eu tynnu, eu sythu a’u rhoi yn y bag yn barod i’w defnyddio ar y Sul gan nid oedd gan y theatr gyllid bryd hynny.

Maes o law, gadewais yr ysgol a bûm yn gweithio yno’n llawn amser. Ond roeddwn am fynd i weithio ym maes goleuo, a gâi ei reoli bryd hynny gan fwrdd goleuo o’r enw Grand Master. Gorchuddiai wal gyfan ac roedd ganddo olwynion mawr a hwn a reolai holl oleuadau’r llwyfan.

Fe wnes i barhau i weithio ym maes goleuo am lawer o flynyddoedd. Pan adawodd y prif drydanwr, camais i’w swydd ac ro’n i’n 20 mlwydd oed erbyn hynny.