Wrth dyfu i fyny yn Abertawe roedd hi’n amhosibl anwybyddu tynfa Theatr y Grand. Daeth y tu blaen epig wrth galon y ddinas yn olau i bob dim y deuthum maes o law. Cefais fy nghyflwyno i fyd y sioeau cerdd o oed reit gynnar (dwi’n cofio gwisgo i fyny ar gyfer y Rocky Horror Show pan oeddwn yn 12, heb wybod y byddwn ymhen 20 mlynedd yn gweithio ar y sioe) a daeth comedi blynyddol Frank Vickery yn brif ymweliad gyda fy mam. Roeddwn hyd yn oed wedi perfformio ar lwyfan ond pwy feddyliai pa mor bwysig y deuai hynny. Ers gadael y ddinas, dwi wedi datblygu gyrfa fel cyfarwyddwr proffesiynol, a bûm yn ddigon lwcus i weithio mewn theatrau ledled y DU ac Ewrop ac yma y cychwynnodd y sbardun i hynny. Bûm yn Llundain a Chaerdydd lawer gwaith ond mae rhywbeth mwy hygyrch am fan lle gallech wylio cynhyrchiad sy’n teithio ar raddfa fawr un wythnos a gwylio’r cyfeillion yn perfformio mewn cynhyrchiad lleol yr wythnos wedyn. Mae hynny’n dweud wrthych ei bod hi’n bosibl llwyddo; nid byd hudol yn unig nad oes modd i chi fyth fod yn rhan ohono yw’r theatr, ond ichi ddal ati.

Ar ôl 12 mlynedd i ffwrdd, roeddwn yn fy ôl yn cynhyrchu cynhyrchiad o Thoroughly Modern Millie heb fod nepell ym Mhort Talbot gyda fy mhartner (Dan arall) a gynlluniodd y gwisgoedd. Ar y llwyfan ar y noson olaf, cyn i’r gynulleidfa gyrraedd, gofynnais iddo fy mhriodi. Teimlwn ei bod hi’n briodol gofyn i’r dyn ro’n i’n ei garu i fy mhriodi ar y llwyfan oherwydd mai’r theatr oedd wedi dod â’r ddau ohonom at ein gilydd. Wrth i waith cynllunio at y briodas gychwyn, dim ond un lle o addoliad oedd yn ddigon mawreddog i ni. Mae cynllunio priodas yn debyg i gynhyrchu sioe gerdd, roedd rhaid i ni bennu actorion, cynllunio’r gwisgoedd, y goleuadau, y sain ac yn olaf cael y gynulleidfa yno. Roedd y tîm yn wych, a daethant yn gymaint o ran o’r cwbl, yn gweithio’n ddiflino i sicrhau y deuai’r sioe at ei gilydd. Anghofia i fyth, eistedd mewn ystafelloedd gwisgo ar wahân gyda’n mamau (a oedd yn ein cyflwyno i briodi) yn yfed prosecco yn derbyn yr alwad i gychwyn wrth i’r côr ddechrau canu “This is Me”. O’r holl sioeau dwi wedi eu hagor, theimlais i erioed mor nerfus ag o’n i yr eiliad honno.

A ninnau bellach ar fin dathlu ail ben-blwydd ein priodas, cawn ein dwyn yn ôl i’r diwrnod hwnnw, yn canu ein ‘hemynau’’ yn y seddau (wrth gwrs, pob un o sioeau cerdd) tra disgleiriai’r sêr y llenni. Edrychais yn gariadus i fyw llygaid y dyn yr o’n i eisiau treulio gweddill fy amser ag ef, a dwi’n ddiolchgar y cefais y fath le gwych o adloniant ac addysg wrth dyfu i fyny. Dyma fydd bellach ac am byth man pwysicaf fy mywyd.