Rwy’n actor, yn gyfarwyddwr, yn gynhyrchydd, a fi yw sylfaenydd ‘The Performance Factory’. Dechreuodd fy angerdd dros theatr pan arferwn ymweld â’r Grand i wylio pantomeimiau yn fy mhlentyndod.

Wedi hynny, fe astudiais y Celfyddydau Perfformio yn y coleg, ac fe hyfforddais fel actor proffesiynol yn Llundain. Bues yn gweithio yn Llundain yn broffesiynol am tua 11 mlynedd, ac yna 15 mlynedd yn ôl, dychwelais i Abertawe a phenderfynais aros yma.

Rwy’n credu mai’r hyn sy’n hyfryd am Abertawe ac am y gymuned yng Nghymru yw’r dynfa. Fy nheulu wnaeth fy nhynnu yn ôl yma. Doedd gen i ddim bwriad aros, ond aros wnes i, ac mae hynny oherwydd yr hyn sydd gan Abertawe i’w gynnig ac mae’r theatr yn rhan o hynny.

Rwy’n cofio, tua blwyddyn neu ddwy ar ôl imi ddychwelyd i Abertawe, fe wnes i hel criw o ffrindiau ynghyd, pob un ohonynt yn actorion proffesiynol neu lled-broffesiynol, ac fe wnes i gynhyrchiad o ‘Company’ gan Stephen Sondheim. Ysgrifennodd y ddrama hon am ddyn o’r enw Bobby sy’n troi’n 30 oed, ac yn dadansoddi’r hyn sydd ganddo yn ei fywyd. Roedd ei ffrindiau i gyd wedi setlo i lawr, roedd ganddyn nhw blant a morgeisi, ond roedd Bobby yn canlyn gyda thair menyw, yn dal i fod yn sengl, doedd dim eisiau cwmnïaeth arno, a doedd o ddim eisiau i’w rwtîn ddyddiol gael ei newid.

Roedd y sioe yn un hudolus dros ben, a chafodd ei derbyn yn gadarnhaol iawn. Fe wnes i dynnu pobl ynghyd o bob rhan o fy mywyd. Fe wnaethon ni lwyddo i wneud dau berfformiad ohoni mewn un diwrnod, ac er bod Sonheim yn un o’r ysgrifenwyr theatr mwyaf masnachol ei ogwydd, roedd y gynulleidfa wrth eu boddau.

Fi chwaraeodd ran Bobby yn y cynhyrchiad hwnnw, ac roedd yn hynod o arbennig oherwydd, pan ddychwelais i Abertawe ar ôl 11 mlynedd yn Llundain, rwy’n credu mai cymeriad Bobby oeddwn i mewn ffordd.