Cyn sefydlu Hwb Amlddiwylliannol y Grand, mae fy atgofion cyntaf o’r Grand yn gysylltiedig â’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (CGA). Dechreuais weithio gyda CGA ac ymunais â sawl gweithgaredd cymdeithasol a phrosiectau. Dwi’n cofio Windrush, Hanes pobl Dduon a rhywfaint o weithgareddau diwylliannol gan yr awdurdodau lleol.

Mae Theatr y Grand yn le cymwynasgar, diddorol a hapus i mi. Os ydych o dras ethnig fel fi, cewch hyd i lawer o wybodaeth am y llywodraeth ac awdurdodau lleol a gallwch hefyd gymdeithasu gydag aelodau o gymunedau amrywiol eraill.

Dywedodd fy ngŵr, Moodie, wrtha i am y sefydliad yma sy’n trefnu gweithgareddau ar gyfer menywod yn y Grand. Cofiaf y cafwyd prosiect unwaith lle’r oedd menywod o wahanol genhedloedd yn coginio eu bwydydd traddodiadol eu hunain. Roedd yn brosiect gwych oherwydd gallem ddysgu gan ein gilydd a phrofi rhywbeth gwahanol.
Ond y prif beth y carwn ei drefnu gyda’n cymuned Dwrcaidd yw sefydlu grŵp cerdd i chwarae offerynnau a dysgu sut i ddawnsio. Byddai fy nghymuned yn hoffi hynny, ac mae ei angen arnom am ein bod wrth ein bodd gyda cherddoriaeth a dawns.

Byddai llawer o deuluoedd o Dwrci wrth eu bodd yn dysgu sut i ddawnsio a chwarae offerynnau cerddorol fel y piano neu’r feiolin i’w plant. Byddwn i wrth fy modd yn dysgu hyd yn oed. Mae cymaint o ddawnsiau gwahanol yn rhan o’n diwylliant. Cofiaf fynychu digwyddiad dawnsio bol rai blynyddoedd yn ôl.

Mae gweithgareddau o’r fath yn hynod bwysig am eu bod yn helpu pobl amrywiol yn emosiynol ac yn gorfforol. Mae celfyddydau, diwylliant a digwyddiadau amrywiol yn hynod bwysig am eu bod yn helpu’r cymunedau amrywiol i integreiddio ac yn rhoi cyfle iddynt gymdeithasu. Mae’n rhoi hapusrwydd iddynt.