Fe’m cyflwynwyd i’r Grand drwy Ganimet a Moodie sy’n rhan o Hwb Amlddiwylliannol y Grand.

Cyfarfûm â Ganimet ar y trên ac roedd yn gymaint o gyd-ddigwyddiad. Roeddwn yn eistedd yn yr orsaf drenau a gwelais ddynes yn eistedd nesaf ataf efo gwallt du. Credais nad Prydeiniwr oedd hi ac eisteddais yno’n amyneddgar yn aros am y trên. Ond edrychodd y ddynes arnaf a gofyn a oedd y trên ar y platfform yn mynd i Abertawe. Atebais yn gwrtais a gofynnodd i mi a oeddwn yn hanu o’r Dwyrain Canol. Dyna sut eginodd sgwrs rhyngom.

Pan aethom ar y trên, adroddais fy stori wrthi gan ddweud fy mod yn hanu o Balesteina ond mod wedi byw yn Lebanon am amser hir iawn. Deuthum i’r DU tair blynedd yn ôl pan oeddwn yn 19 oed, ar ben fy hun yn llwyr ac ar hyn o bryd, rwy’n aros i gael fy statws fel ffoadur wedi’i gymeradwyo.

Mae hi’n dweud wrthyf fod ei gŵr, Moodie, yn hanu o Balesteina ac efallai y gallant fy nghefnogi gyda’r broses gymeradwyo. Tua phythefnos yn ddiweddarach, euthum i ymweld â Ganimet a Moodie yn Theatr y Grand.
Dyna adrodd y stori o sut gwnes i gyfarfod Ganimet ar hap yng ngorsaf drenau Caerdydd, i fod yn gysylltiedig â’r hwb yma cyn troi rownd.

Oherwydd yr hwb sydd newydd ei sefydlu bydd y lle yma’n wirioneddol yn gallu helpu pobl.
Buaswn wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r gwaith yn helpu’r ceiswyr lloches. Gwn fod bywyd ceiswyr lloches yn anodd, ry’ch chi’n gyfan gwbl ar eich pen eich hun ac mae’n anodd meithrin perthnasau, creu cyfeillgarwch ystyrlon a chyrchu gwybodaeth berthnasol.

Pan fydda i’n 50 oed, rwy’n gobeithio y gallaf ddwyn atgofion am yr holl bobl rwyf wedi’u helpu yma. Yn union fel y mae Ganimet a Moodie, pobl dwi’n eu harddel fel ewythr a modryb i mi bellach, yn fy helpu i rŵan.