Dwi’n hanu’n wreiddiol o Fanceinion, yn ferch i fam a oedd berchen ar ei hysgol fale ei hun, a rheolwr oedd fy nhad. Roedd bale o’m cwmpas wrth i mi dyfu, er mai go anobeithiol oeddwn i.

Pan symudais i Abertawe yn gynnar yn y 1980au, cefais fy nhrydydd plentyn ac roeddwn wirioneddol eisiau iddi ddysgu dawnsio.

Cawsom ein dwy ein cyflwyno i Theatr y Grand lle ymunodd hi â’r ysgol ddawns. Datblygodd i fwynhau dawnsio a’r celfyddydau perfformio yn fawr felly chwaraeais ran bwysig yn ei hebrwng yno.

Bu fy merch yn ffodus iawn yn cael ei dewis gan yr Ysgol Fale Brenhinol i fod yn gysylltai ifanc, yn 8 mlwydd oed. Deuai tiwtoriaid yr Ysgol Fale Brenhinol unwaith y mis i roi gwersi am ddim ar ddydd Sul i’r menywod yr oeddent wedi’u dewis. Dyna gof arwyddocaol iawn i mi. Hefyd, pan oedd cartref y Bale Rwsiaidd yn y Grand, bu i fy merch ddawnsio gyda nhw ar brydiau.

Dyna fy angerdd o hyd, byd y bale.

Ychydig yn ddiweddarach roeddwn yn rhan o’r Adran Hamdden yn Abertawe ac yna ar ddiwedd y 1990au pan adeiladwyd Adain y Celfyddydau, deuthum i nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau amrywiol yma. Hefyd, dwi wedi cynnal digwyddiadau ar gyfer y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd.

Mae rôl driphlyg yn gysylltiedig â’r Grand i mi. Un fel mam sy’n ferch i ddawnsiwr bale, gyda’i merch ei hun yn datblygu’n ddawnsiwr bale da iawn. Yna, gweithio yn yr Adran Hamdden ac Adain y Celfyddydau ac ar hyn o bryd, tua diwedd fy ngyrfa, gweithio i Hwb Amlddiwylliannol y Grand fel Rheolwr Gyfarwyddwr y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd.

Gwireddu breuddwyd yw hyn i mi ac mae’n anrhydedd fawr cael bod yn gysylltiedig â’r Grand am amser mor hir.