Cefais fy ngeni yn Stoke on Trent, canolbarth Lloegr, i dad o Balesteina a mam o Brydain. Pan gefais fy ngeni, roedd fy nhad am fynd â fi i Balesteina, ac fe berswadiodd e mam a theulu fy mam y byddai’n syniad da i ymfudo i’r Dwyrain Canol.
Ers hynny, i fod yn gryno iawn, dwi wedi treulio hanner fy mywyd yn teithio neu’n cael swyddi tramor a’r hanner arall yn y DU.
Ond, deuthum i Abertawe yn nechrau’r 1980au a hynny, mewn gwirionedd, er mwyn bod yn agos at fy mhlant oedd yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Dwi’n cofio Theatr y Grand yn arfer llwyfannu operâu, hyd yn oed ymhell yn ôl yn yr 80au. Rhaid i mi gyfaddef mod i wrth fy modd gyda’r theatr, yn arbennig opera. Fy atgofion cyntaf o’r Grand yw mynychu sioeau a pherfformiadau gwahanol.
Ar hyn o bryd, dwi’n byw yn Abertawe yn barhaol a dwi’n cynrychioli cymuned Cymdeithas Balesteinaidd Abertawe. Mae ein sefydliad yn hynod groesawgar a dywed ein polisi y gall unrhyw unigolyn o gefndir Arabaidd ymuno â ni. Y tro diwetha’ i mi gyfri, Arabeg yw prif iaith 27 o wledydd, felly ry’n ni’n saff o gyfarfod â phobl o bob cwr o’r byd yn ein sefydliad.
Yn Hwb Amlddiwylliannol y Grand, ry’n ni eisiau helpu aelodau cymunedau dan anfantais a hybu diwylliant o’r Dwyrain Canol. Dyna’n canolbwynt yn gryno.
Fe wnes i ddylunio rhaglen gyfan am gelfyddyd a diwylliant Arabaidd.
Er enghraifft, fy nod yw trefnu sesiynau sinema ynghyd â chyflwyniadau am ffilmiau Arabaidd a’r diwydiant, boed yn ffilmiau sy’n amlygu gwledydd Palesteina, Lebanon, neu wlad arall yn y Dwyrain Canol fel Iran neu Dwrci. Er enghraifft, mae gan Dwrci ddiwydiant sinema gwych ac mae’r holl bethau hynny ar gael i ni i’w rhannu gyda’r ganolfan gymunedol yn Abertawe.