Yr atgof pwysicaf sydd gen i o’r Grand yw gweld cynhyrchiad o ‘Charley’s Aunt’, oherwydd rwy’n meddwl bod y sioe honno, efallai mwy nag yr un sioe arall a welais, wedi fy annog i fynd i’r theatr. Mae gen i gof clir iawn, mae’n rhaid mai tua deng mlwydd oed oeddwn i, ac roeddwn i’n eistedd yno ac roedd yna ddyn mewn oed yn eistedd wrth fy ymyl, ac fel oedd y llenni ar fin agor, dyma fe’n troi ataf i ac yn dweud “Ai dyma’r tro cyntaf iti weld Charley’s Aunt, grwt?” A dyma fi’n ateb “ie, dyma’r tro cyntaf”, ac meddai yntau, “O, faswn i wrth fy modd petai hwn yn dro cyntaf i mi hefyd”. Roedd y sioe yn wirioneddol wych, ac rwy’n cofio mor dda oedd ei gwylio. Gallai popeth fod wedi bod yn wahanol pe na fyddwn i wedi gweld y cynhyrchiad hwnnw yn y Grand.
Heb y Grand, fuaswn i ddim yn gwneud yr hyn rwy’n ei wneud nawr. Dyna oedd yr ysgogiad diwylliannol i mi, ac yn bwysicach fyth, dyna’r lle rwy’n gweithio ar hyn o bryd
Fe sefydlais i’r Fluellen Theatre Company yn y flwyddyn 2000 yn fuan wedi imi fudo’n ôl i Abertawe o Lundain gyda fy ngwraig a’r plant. Fe gynhaliom ein cynhyrchiad cyntaf yn y ‘No Sign Wine Bar’ ar Wind Street ond fe wnaethon ni benderfynu nad yw pob sioe yn addas i’w chynnal yn y bar.
Ar yr adeg honno, roedd y Grand newydd agor Adain y Celfyddydau, ac roedd y ddau lawr cyntaf yn cael eu defnyddio fel oriel gelf, ac roedd y gofod perfformio’n cael ei ddefnyddio fel stiwdio ddawns ar gyfer y Ballet Russe gan mwyaf. Doedd yna ddim seddi yn y gofod perfformio yn y dyddiau hynny, ond rwy’n hoff iawn o fannau gwag, ac rwy’n credu’n gryf yn yr hyn ddywedodd Peter Brook, ‘Rhowch imi le gwag, ac fe’i galwaf yn theatr’.
Fe ddechreuais drafod gwneud cyfres o ddramâu yn Adain y Celfyddydau gyda’r Grand, yn dechrau gyda drama o’r enw ‘Ghosts’ gan Henrik Ibsen.
Tua phythefnos cyn roedd ‘Ghosts’ i fod i gael ei pherfformio, fe es i weld cwmni theatr arall yn cynnal sioe yno, ac roedd yn ofnadwy. Roedd y sioe ei hun yn iawn, ond roedd yn ofnadwy oherwydd bod pawb yn eistedd ar yr un lefel; os roeddech chi’n eistedd y tu hwnt i’r ail res, doeddech chi ddim yn gallu gweld beth oedd yn digwydd. Fe benderfynais yn y fan a’r lle y bydden ni’n gwneud y sioe theatr gylch, ac felly dyna fu dechrau, yn gwbl anfwriadol, ryw ychydig o ffenomen, gan fod cyn lleied o bobl wedi gweld perfformiad theatr gylch yn Abertawe bryd hynny.
Erbyn hyn, roedden ni wedi cytuno gyda’r Grand y bydden ni’n cynnal tri chynhyrchiad mawr yn Adain y Celfyddydau bob blwyddyn wrth inni feithrin cynulleidfa annwyl dros ben, a dyna ichi’r hanes.