Fy atgof mwyaf arwyddocaol o’r Grand yw pan oeddwn yn blentyn a gwahoddwyd ein dosbarth i wylio sioe. Pan ddaethon ni i’r perfformiad, dwi’n cofio hoelio fy sylw ar yr hyn oedd yn digwydd, yr actorion, pa mor ddramatig a thalentog oedden nhw – roedd e’n anhygoel.
Wnes i ddim ymweld â’r theatr gyda’m rhieni, ond roeddwn i’n meddwl fod hyn yn arfer yr hoffwn ei ddechrau gyda fy nheulu. Pan oedd fy mab, Zayn, tua chwech oed, roedd sioe Gangsta Granny’n cael ei dangos. Bu’n darllen llyfrau David Walliams ac ro’n i’n gwybod y byddai wrth ei fodd yn mynd i weld y sioe, felly dyma ni rieni yn rhoi tocynnau yn syrpreis iddo. Aeth Zayn a finnau i weld y sioe gyda’n gilydd ac roedd yn brofiad clós rhwng mam a mab.
Ers hynny, cychwynnais draddodiad yn fy nheulu pan fydda i’n mynd â’r plant bob blwyddyn i wylio sioe fawr.
Dwi hefyd yn cofio fy nwy chwaer iau yn graddio yn y Grand. Cynhaliwyd y seremoni raddio yno, a chaniatawyd 3 ymwelydd, felly aeth mam, dad a minnau. Caniatawyd 3 ymwelydd, felly aeth fy mam, fy nhad a minnau. Roeddwn yn teimlo mor ddiolchgar, yn hapus ac yn ostyngedig iawn cael bod yn rhan o’r seremoni oherwydd does dim mor foddhaus â cael bod yn chwaer hŷn yn gwylio eich brodyr a’ch chwiorydd iau yn ffynnu.
Roedd hi’n gyffrous bob amser pan ddeuthum y tro cyntaf yn blentyn, yn gyffrous pan wnes i rannu’r profiad gyda fy mab a’m chwiorydd, ac mae’n gyffrous rŵan gyda’r hwb amlddiwylliannol newydd.
Dwi’n rhagweld yr hwb fel lle mae aelodau cymuned amrywiol yn dod at ei gilydd heb unrhyw ddisgwyliadau, yn dod i’r ganolfan a chamu i mewn i’r Grand, a dim ond gweld lle mae’r siwrnai yn mynd â nhw, boed nhw’n meithrin sgil newydd, yn cael gwybodaeth neu ddim ond yn gwneud ffrindiau newydd.