Deuthum i’r Grand y tro cyntaf pan oedd fy eglwys yn trefnu cynhadledd yn yr Adain Gelfyddydau a dyna oedd y tro cyntaf i mi gamu i’r theatr. Cyn hynny, gwybod am y lle yn unig oeddwn i, ond heb fynychu. Dechreuais ymchwilio i hanes Theatr y Grand oherwydd y gynhadledd a dywedais wrth fy merch bod yn rhaid i ni ddod i weld y sioeau.

Ymwelais â’r theatr yng nghwmni fy merch i wylio Sister Act and Jack and the Beanstalk gyda ffrind i mi o’r brifysgol.

Mae gen i sawl moment arwyddocaol, ynghyd ag atgofion a straeon am y lle yma. Deuthum yma hefyd gyda’r brifysgol oherwydd roedden nhw’n cynnal sesiynau ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn Adain y Celfyddydau.

Ar hyn o bryd, fel Rheolwr Cyffredinol y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, rwy’n ymwneud mwy nag erioed gyda’r Grand felly mae hyn mor gyffrous. Dwi’n gobeithio y bydd Hwb Amlddiwylliannol y Grand yn creu dolen integredig rhwng cymunedau ethnig lleiafrifol a diwylliannau, celfyddyd a threftadaeth leol.

Er enghraifft, roeddwn yn gysylltiedig â’r lle yma drwy fy eglwys. Wnes i erioed feddwl am ddod i’r sinema, ond oherwydd i mi ddod yma a gweld y lle y dechreuais fagu diddordeb. Cefais fy hudo gan y lleoliad yma a maes o law deuthum yma gyda’m merch a’i ffrindiau, a dangos harddwch y Grand iddynt a’r perfformiadau theatrig traddodiadol fel y Pantomeim.

Rwy’n gobeithio y bydd yr hanes yn ail-adrodd ei hun o ran y bydd gan y cymunedau reswm i ddod i’r Grand oherwydd yr hwb a’n gwasanaethau. Efallai y byddant yn dod i weld y perfformiadau gyda ffrindiau a theulu, fel y gwnes i.