Dwi’n mwynhau celf ac mi fyddwn i’n ymweld yn gyson â’r Grand i weld arddangosfeydd. Yn ystod y rhagarddangosfeydd, roeddwn i’n edrych, yn edmygu neu’n cael fy herio gan y gwaith celf a chyfarfod ag artistiaid gwahanol. Mae agoriadau’n ddigwyddiadau reit hwyliog lle gallwch fwynhau diodydd gyda’ch ffrindiau a dod i adnabod gwahanol bobl. Euthum i sawl arddangosfa wahanol, fedra i ddim eu cofio bob un, ond ro’n i bob amser yn eu mwynhau achos roedd hi’n ddiddorol gweld yr arddulliau neu safbwyntiau gwahanol a chael eich ysbrydoli gan ddarnau celf hardd neu a oedd yn pryfocio’r meddwl.
Yna, dechreuais weithio yn Adran Farchnata Theatr y Grand, Abertawe ac yn ystod yr amser hwnnw cefais gyfle i weld gwahanol fathau o sioeau nad oeddwn i wedi’u gweld yn fyw o’r blaen fel sioeau cerdd neu’r pantomeim traddodiadol.
Mae gen i ferch a dwi wedi ei hebrwng sawl gwaith i wylio perfformiadau gwahanol yn fy nghwmni. Mae hi wedi cael profiad o weld sioeau yn y theatr ochr yn ochr â mi, ers i mi gychwyn gweithio yma.
Mae hi wedi bod yn wych iddi allu tyfu i fyny gyda theatr a pherfformiad yn ei bywyd ac mae hi’n gwybod lle dwi’n gweithio. Mae hi’n chwech oed ac mae hi bob amser yn gofyn am fy ngwaith. Hyd yn oed rŵan, yn ystod y pandemig, mae hi wedi bod yn holi pryd fydd y theatr yn ail agor a phryd fydd hi’n gallu dod i weld sioeau. Dwi’n credu y gwnaeth rhai o’r cynyrchiadau aethon ni i’w gweld ddylanwadu arni ac ehangu ei gorwelion.
Yn bendant un o ganolbwyntiau diwylliannol Abertawe yw’r Grand. Mae’n un o’r lleoedd diwylliannol lle byddwn yn dod i weld yr arddangosfeydd celf neu wylio sioe. Dyma le rwy’n dod iddo i gyfarfod â phobl eraill sydd â diddordebau diwylliannol tebyg. Mae’n fan sy’n dod â phobl at ei gilydd ac yn fwrlwm pwysig o ddiwylliant yn y ddinas, yn fy marn i.